Canlyniadau a Pherfformiad

Arholiadau ac asesiadau

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ysgol sy'n perfformio'n dda gyda chanlyniadau rhagorol mewn dangosyddion craidd dros nifer estynedig o flynyddoedd. O'i gymharu ag ysgolion tebyg ledled Cymru, mae Glantaf yn perfformio'n dda ym mhob un o fesurau perfformiad Llywodraeth Cymru a gellir gweld y rhain drwy edrych ar wefan Llywodraeth Cymru, Fy Ysgol Leol Fy Ysgol Leol (gov.wales) sy'n rhannu gwybodaeth am bob darparwr addysgol ledled Cymru:

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (gov.wales)

Mae myfyrwyr o Lantaf yn symud ymlaen yn rheolaidd i ystod eang o ddarparwyr Addysg Uwch ledled Cymru a'r DU.

 

Lles a gofal

Mae Glantaf yn cymryd rhan yn arolwg Llywodraeth Cymru (dan arweiniad Prifysgol Caerdydd) o Iechyd a Lles Myfyrwyr, sy'n rhoi canlyniadau manwl i'r ysgol o gyfranogiad, gweithgarwch ac agweddau myfyrwyr sy'n offeryn allweddol i adolygu ein darpariaeth.

Cynhelir yr arolwg gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), sy'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD); a Phrifysgol Caerdydd.

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr | LLYW.CYMRU

Mae myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru yn cwblhau'r Arolwg Dwyieithog, Electronig o Iechyd a Lles Myfyrwyr bob dwy flynedd. Cyfunir yr arolwg â Holiadur Amgylchedd Ysgolion, y mae pob ysgol yn ei gwblhau ar eu polisïau a'u harferion iechyd.

Mae'r arolwg yn seiliedig ar arolwg trawsgenedlaethol Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol (HBSC) Sefydliad Iechyd y Byd, lle mae Cymru wedi cymryd rhan ers 1985.