Cymorth Iechyd a lles yng Nglantaf

Mae hybu iechyd a lles a chymorth lles yn hanfodol yng Nglantaf wrth i ni geisio cefnogi pob aelod o gymuned yr ysgol a allai fod yn wynebu cyfnodau anodd neu sy'n teimlo bod materion o fewn neu y tu allan i'r ysgol yn eu herio. Rhan greiddiol o'n cymorth bugeiliol ac academaidd yw rôl y Tiwtor Personol sy'n aros gyda phob dosbarth cofrestru o'r diwrnod y mae disgyblion yn dechrau yng Nglantaf ym Mlwyddyn 7 tan Bl11 ac ar adegau hefyd i astudiaeth yn y Chweched Dosbarth.

Mae pob grŵp blwyddyn hefyd yn cael ei arwain gan Arweinydd Cynnydd a Lles y gallwch gysylltu ag ef/hi rhag ofn y bydd ymholiad neu bryder.

Cliciwch yma i Gysylltu â Chymorth Cynnydd a Lles

Rydym yn ymwybodol iawn bod angen cymorth neu gyngor ychwanegol ar blant a phobl ifanc (yn ogystal ag oedolion) ar adegau anodd. Gall y rhain gynnwys sefyllfaoedd lle gall disgyblion deimlo eu bod wedi'u llethu gan straen, gorbryder, teimlad o unigrwydd, diflastod neu golled. Yng Nglantaf ein nod yw hyrwyddo strategaethau iechyd meddwl cadarnhaol gyda llu o adnoddau rhagorol a strategaethau ymarferol

Gall yr ysgol gynnig:

  • Cwrdd gyda eich Arweinydd Cynnydd a Lles (Arweinydd Blwyddyn)
  • Cerdyn “amser allan”
  • Mentor Cymar neu Fydi o Bl 12 neu 13
  • Gweithiwr Allweddol
  • Amser allan neu gyfnod yn ein “Hafan”
  • Ymyrraethau fel ELSA, TALKABOUT, Rheoli tymer
  • Cyfarfod gyda Nyrs Ysgol
  • Cyfarfod gyda Cwnselydd Ysgol
  • Cyfeirio at asiantaethau lles a chymorth y sir

Rydym hefyd yn cyfeirio disgyblion a rhieni at ystod eang a chyfoethog iawn o adnoddau arlein sy’n cynnwys:

Llinell Gymorth Sgwrsio am Iechyd a Nyrs Ysgol :

 

Kooth

Home - Kooth

 

Meic

Mae Meic yn adnodd ardderchog arlein sy’n cynnig cymorth I bobl ifanc a theuluoedd sy’n galu cysyklltu drwy neges testun ar 84001 neu ar y ffôn : 08 08 80 23 546

www.meiccymru.org

 

Young Minds

Anfonwch neges destun at YoungMinds Crisis Messenger gydol 24/7 sy’n cynnig cymorth ar draws y DU os ydych yn profi argyfwng / pryder iechyd meddwl.

Os ydych angen cymorth argyfwng cysylltwch drwy neges destun yn nodi YM i 85258.

Mae pob neges destun yn cael ei ateb gan gynghorwyr a gwirfoddolwyr arbenigol.

Mae neges destun am ddim gyda rhywdwaith EE, O2, Vodafone, 3, Virgin Mobile, BT Mobile, GiffGaff, Tesco Mobile a Telecom Plus

Os ydych am wybodaeth ynglyn a’ch teimladau, i gael gwybodaeth am gyflwr iechyd meddwl neu am wybodaeth am gyngor sydd ar gael, ewch I’r wefan am y dolenni Find Help.

Cymorth i Rieni: cymorth arlein Young Minds

  • Cefnogi fy mhlentyn drwy’r pandemic
  • Cefnogi fy mhlentyn mewn galar
  • Cymorth ariannol
  • Cymorth iechyd meddwl
  • Anhawsterau drwy “gadw o fewn rheolau”
  • Cymorth A-Y yn y maes iechyd meddwl ee: straen, iselder, gor-bryder ayyb
  • Cymorth o fewn y cartref
  • Sut I drafod iechyd meddwl gyda fy mhlentyn
  • Survival Guides i rieni
  • Cychwyn sgyrsiau anodd gyda fy mhlentyn
  • Grwpiau cefnogi i rieni
  • Newid patrymau ymddygiad